BT Tradespace
BT Tradespace yw gwefan rhwydweithio cymdeithasol ar gyfer busnesau. Mae modd agor cyfrif am ddim, neu mynd am opsiwn talu ble ceir mwy o wasanethau. Dwi wedi agor cyfrif Tradespace a chreu proffeil jobscymraeg.com yma.
O'r edrychiad cyntaf tydi o ddim yn ymddangos yn hyblyg iawn, ac mae'n siwr bod gwasanaethau tebyg llawer gwell i'w cael. Wedi dweud hynny, mae'n darparu porthiant RSS a mantais hwn yw ei fod wedi ei greu ar gyfer y DG ac nid UDA, ond wedyn mae'n gwestiwn o fydd o fantais mawr i fy musnes i gan mai sefydliadau Cymraeg a Chymreig yn bennaf sy'n debygol o'i ddefnyddio.

digg it
del.icio.us