Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


RSS ar gael.

2007
Awst
23
gwefeistr — @ 16:28 Tagiau:

RSSGallwch rwan danysgrifio ar gyfer RSS fel eich bod yn gallu cael eich hysbysu pob tro mae hysbyseb swydd newydd yn ymddangos ar y wefan. Os nad ydych yn siwr beth yw RSS, dyma esboniad o wikipedia.

Porthiant RSS (Cymraeg):

http://jobscymraeg.com/rss.php?lang=cy_GB

Porthiant RSS (Saesneg):

http://jobscymraeg.com/rss.php?lang=en_GB

Gallwch hefyd danysgrifio i RSS y blog hwn hefyd:

http://jobscymraeg.nireblog.com/rss2/24434/index.xml

Hysbyseb yn Nyddiadur Y Lolfa 2008

2007
Awst
23
gwefeistr — @ 15:08 Tagiau:

Mae Dyddiadur Y Lolfa 2008 (Academaidd) allan yn y siopau, ac mae banner jobs-cymraeg.com yn ymddangos ar waelod pob yn ail tudalen.

Dyddiadur y Lolfa 2008

BT Tradespace

2007
Mehefin
15
gwefeistr — @ 11:37 Tagiau:

BT Tradespace yw gwefan rhwydweithio cymdeithasol ar gyfer busnesau. Mae modd agor cyfrif am ddim, neu mynd am opsiwn talu ble ceir mwy o wasanethau. Dwi wedi agor cyfrif Tradespace a chreu proffeil jobscymraeg.com yma.

O'r edrychiad cyntaf tydi o ddim yn ymddangos yn hyblyg iawn, ac mae'n siwr bod gwasanaethau tebyg llawer gwell i'w cael. Wedi dweud hynny, mae'n darparu porthiant RSS a mantais hwn yw ei fod wedi ei greu ar gyfer y DG ac nid UDA, ond wedyn mae'n gwestiwn o fydd o fantais mawr i fy musnes i gan mai sefydliadau Cymraeg a Chymreig yn bennaf sy'n debygol o'i ddefnyddio.

Cefndir

2007
Mehefin
04
gwefeistr — @ 17:35

Lawnsiwyd jobscymraeg.com yn haf 2006, er roeddwn wedi bod a'r syniad ers 2004. Sylweddolais bod defnydd o'r we ar gynnydd a bod posibiliadau yn deillio o hyn ble gall y Gymraeg gael ei ddefnyddio'n helaeth, ble nad yw nifer y siaradwyr na eu lleoliad daearyddol yn rwystr.